Ymunodd Amy ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019 ac yn ddiweddar trosglwyddodd i’r Tîm Gwyddor Ymddygiad ym mis Medi 2024. Gyda chymhwyster Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau a phrofiad helaeth yn y sector cyhoeddus, mae Amy yn dod ag arbenigedd rheoli prosiect cryf i’w rôl. Mae ei chefndir yn ei galluogi i oruchwylio llinellau amser prosiectau, adnoddau, a chydlynu tîm yn effeithiol, gan sicrhau canlyniadau prosiect llwyddiannus.
Mae Amy hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd, gan ddangos arweinyddiaeth trwy ei rôl wirfoddol fel Cyd-Gadeirydd Rhwydwaith Anabledd Staff ICC, lle mae’n eiriol dros arferion cynhwysol o fewn y sefydliad. Yn ei hamser personol, mae’n mwynhau crosio, pobi, a threulio amser o ansawdd gyda’r teulu.