
Ymunodd Angharad â’r tîm Polisi ac Iechyd Rhyngwladol fel Rheolwr Busnes a Chynllunio ym mis Awst 2024. Mae Angharad yn sicrhau bod strwythurau busnes, cyllid, cynllunio,adrodd a llywodraethu cadarn ar waith ar gyfer y gyfarwyddiaeth. Mae Angharad wedi gweithio i GIG Cymru ers 10 mlynedd, gan weithio’n bennaf mewn rolau sy’n canolbwyntio ar brosiectau a strategaethau gofal sylfaenol. Mae Angharad yn treulio unrhyw amser rhydd yn mwynhau’r awyr agored gyda’i dau blentyn, ei chŵn a’i cheffylau.