« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Ann â’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd ym mis Gorffennaf 2022 ond mae wedi gweithio ym maes iechyd cyhoeddus ers 2007. Roedd Ann yn aelod o Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol y Gogledd yn cefnogi gwaith gwella iechyd, gan ganolbwyntio’n bennaf ar agenda’r Blynyddoedd Cynnar. Cofrestrodd fel Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn y DU yn 2019 gan hyfforddi fel Asesydd UKPHR.
Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd yn Ymchwilydd Iechyd ym Mhrifysgol Bangor ar ôl derbyn ei gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn 2005. Mae wedi gweithio ar Raglen Teithio Llesol i’r Ysgol yn y DU ac Agenda 21. Mae Ann yn gwbl angerddol dros roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc a sicrhau bod iechyd a lles cenhedlaeth y dyfodol yn cael ei ddiogelu a’i sicrhau.
Mae Ann yn byw gyda’i gŵr a thri o blant ym mhrydferthwch Ynys Môn ac yn mwynhau cerdded, pobi a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl

28 October 2022

Lleihau Allyriadau Carbon