« Cyfeiriadur staff

Mae Brendan Collins yn economegydd iechyd y cyhoedd sydd wedi gweithio yn y GIG, y byd academaidd, Llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru ac fel ymgynghorydd i UNICEF. Mae’n arwain Tîm Economeg a Gwerth Iechyd y Cyhoedd (PHEV) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyn hynny bu’n Bennaeth Economeg Iechyd, Dadansoddeg Uwch a Modelu Polisi yn Llywodraeth Cymru lle bu’n arwain ar fodelu yn ystod y pandemig covid-19. Mae llawer o’i waith wedi ymwneud â chost-effeithiolrwydd ymyriadau iechyd y cyhoedd a pholisïau fel y dreth ar ddiodydd llawn siwgr (SDIL), y trothwy 9pm ar gyfer hysbysebu bwydydd afiach, ac ati. Mae hefyd yn gweithio fel Uwch Ddarlithydd yn Adran Iechyd y Cyhoedd, Polisi a Systemau ym Mhrifysgol Lerpwl. Y tu allan i’r gwaith mae’n hoffi chwarae cerddoriaeth a mynd i redeg.