Ymunodd Carys ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2024 i weithio ar y Tîm Prosiectau Arbenigol, gan ganolbwyntio ar waith yn ymwneud â chysylltiadau cymdeithasol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Cyn hynny bu’n gweithio fel ymchwilydd i Brifysgol Caerdydd, gan gyfrannu at brosiectau megis datblygu ymyriadau newid ymddygiad a gwerthuso ymyriadau lles seicolegol yn y gweithle ar gyfer nyrsys yn ystod y pandemig.
Mae gan Carys gefndir mewn seicoleg, ar ôl cwblhau gradd israddedig a meistr mewn Seicoleg Iechyd yng Nghaerdydd. Mae’n awyddus i gymhwyso ei gwybodaeth am seicoleg iechyd a theori newid ymddygiad mewn amgylchedd Iechyd Cyhoeddus, ac mae’n edrych ymlaen at weithio ar brosiectau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Y tu allan i’r gwaith, mae Carys yn mwynhau darllen, treulio amser yn yr awyr agored (fel arfer gyda’i dau cockapoo) a mynychu digwyddiadau cerddoriaeth fyw.