Ymunodd Cathy ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Reolwr Rhaglen, Economi Iechyd y Cyhoedd a Llesiant ar sail Gwerth ym mis Ebrill 2024. Cyn hynny, treuliodd 10 mlynedd yn Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys bod yn aelod o’r tîm a luniodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn arwain ar degwch iechyd, cyllid ac atal. Yn fwy diweddar bu’n gweithio i Social Finance UK, yn arwain rhaglen newid systemau i atal gwaharddiadau o’r ysgol. Y tu allan i’r gwaith, mae’n aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Cadwyn, yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Albany ac yn gwirfoddoli’n rheolaidd yng Nghanolfan Tavistock yng Nghaerdydd (sy’n darparu cymorth i bobl ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref).