« Cyfeiriadur staff

Mae Cerys yn Brif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn arwain dull y sefydliad o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae hi eisoes wedi gweithio ar draws yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddi brofiad helaeth o ddarparu gwasanaethau a datblygu cymunedol ar ôl gweithio mewn timau Iechyd y Cyhoedd Lleol a a gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu Mae hi’n eiriolwr angerddol dros y gweithlu ymarferwyr iechyd cyhoeddus, gan gyd-arwain y Rhwydwaith Gyrfaoedd Cynnar a gwasanaethu fel asesydd ar gyfer Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU. Y tu allan i’r gwaith, does dim byd yn well ganddi nag ymlacio gyda llyfr da a choffi cryf, ac mae hi’n hoff iawn o gerddoriaeth. Fe welwch chi hi’n aml yn sefyll ar ymyl amrywiol gaeau chwaraeon gwlyb a mwdlyd fel mam rygbi a phêl-droed falch.