« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Cheryl â thîm WHIASU ym mis Medi 2024 fel Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd. Ei rôl yw cefnogi gweithrediad y rheoliadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar gynllunio gofodol ac iechyd.
Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Cheryl yn gweithio yn nhîm iechyd y cyhoedd lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan arwain gwaith ar imiwneiddio plant, iechyd pobl hŷn a chynllunio iach. Mae wedi cael llwybr gyrfa amrywiol a wnaeth ddechrau ym maes cynllunio tref. Yna bu’n gweithio i ddarparwr tai cymdeithasol a gorffen ym maes iechyd y cyhoedd.
Mae angerdd arbennig Cheryl yn ymwneud ag effaith yr amgylchedd ar ein hiechyd a’n llesiant. Mae ganddi Radd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Chynllunio, y ddau o Brifysgol Gorllewin Lloegr.
Y tu allan i’r gwaith, mae Cheryl yn treulio llawer o’i hamser yn yr awyr agored, yn nofio mewn dŵr oer, yn marchogaeth, ac yn cerdded ei dau gi.