Ymunodd Daniela ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019 fel Cynorthwyydd Personol i’n Hymgynghorwyr y gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol; ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cydlynydd Iechyd Rhyngwladol ein Tîm Iechyd Rhyngwladol. Mae Daniela yn cefnogi ac yn ymwneud â holl ffrydiau gwaith cyfredol y tîm, gan gynorthwyo gyda chynllunio, rheoli a chyflawni ein prosiectau. Mae ganddi ddiddordeb mewn cydraddoldeb ac mae ei sgiliau’n cynnwys; ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid, trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, rheoli dyddiaduron, cadw cofnodion, ymchwil a choladu data, cynllunio prosiectau a chydlynu.