« Cyfeiriadur staff

Dr Jo Davies yw Pennaeth Economeg a Gwerth Iechyd y Cyhoedd. Ymunodd â’r tîm yn 2024 a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Bennaeth Economeg Iechyd yn Llywodraeth Cymru. Mae ganddi dros ddeng mlynedd o brofiad yn y byd academaidd yn cynnal gwerthusiadau economaidd o dreialon clinigol ac ymyriadau iechyd y cyhoedd. Mae gan Jo diddordeb mawr yn y defnydd o dechnegau economeg iechyd i helpu i ddatblygu polisïau ac ymarferion yng Nghymru. Mae ganddi hefyd arbenigedd mewn blaenoriaethu gan ddefnyddio fframweithiau fel Cyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol (PBMA) a Dadansoddi Penderfyniadau Aml-Feini Prawf (MCDA).