
Ymunodd Rebecca ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd yn 2019. Mae gan Rebecca gylch gorchwyl ar draws y gyfarwyddiaeth ac mae’n gweithio ar draws is-adran Polisi Iechyd y Cyhoedd a’r tîm Iechyd Rhyngwladol, ac yn arwain cyswllt academaidd gyda Phrifysgol Bangor. Yn flaenorol, mae Rebecca wedi gweithio mewn swyddi arwain rhaglenni trawsnewid ym Myrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda. Mae gan Rebecca hefyd gefndir mewn ymchwil ac addysgu academaidd, ac mae wedi arwain rhaglen cohort genedigaethau ac iechyd plant/teuluoedd yn llwyddiannus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.