Mae Emma wedi gweithio yn y sector camddefnyddio sylweddau am y 17 mlynedd diwethaf, i ddechrau fel gweithiwr rheng flaen ac yna fel arweinydd tîm ar gyfer Gwasanaeth Pobl Ifanc – Dewisiadau yn y tair sir, sef Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae Emma yn angerddol am leihau niwed a gwella ac mae’n teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o siwrneiau cymaint o bobl ifanc.
Mae gyrfa Emma wedi canolbwyntio’n bennaf ar blant a phobl ifanc o fewn y maes camddefnyddio sylweddau, ac mae hyn wedi ei hysbrydoli i ymuno â Chanolfan ACE ar secondiad 12 mis i arwain y ffordd i’r sector camddefnyddio sylweddau wedi’i lywio gan TrACE. Mae hi’n credu ym mhwysigrwydd creu amgylchedd sy’n cofleidio caredigrwydd, diolchgarwch a gofal gyda thosturi.
Yn ogystal, mae Emma yn fam i Megan, 23, a Rowan, 16, ac yn dyheu am fod yn esiampl gadarnhaol iddyn nhw. Mae Emma wrth ei bodd yn cerdded ac mae ganddi dri chi hardd sy’n ei chadw’n heini. Mae hi wedi ymuno â dosbarth ioga yn ddiweddar ac mae’n mwynhau myfyrdod dan arweiniad yn ei hamser hamdden.