Eurgain yw’r Prif Ymarferydd Datblygu Cynaliadwy ac Iechyd o fewn Canolfan Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ymunodd ym mis Mawrth 2022 a’i rôl yw cefnogi gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, drwy fentrau cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd.
Cyn ymuno â’r Ganolfan, bu Eurgain yn gweithio fel Gwneuthurwr Newid ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru gan arwain gwaith ar ddatgarboneiddio, trafnidiaeth a chaffael, gan ddylanwadu ar strategaethau a phenderfyniadau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Comisiwn Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd, Fforwm y Dyfodol a Chyngor Sir Caerfyrddin gan ddatblygu prosiectau cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd.
Mae Eurgain yn angerddol iawn am wneud gwahaniaeth a diogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Pan nad yw’n gweithio mae’n brysur gyda phrosiectau cynaladwyedd lleol ac yn mwynhau treulio amser ym myd natur, yn rhedeg, yn beicio ac yn mynd â’i chi am dro.