
Mae Hannah yn cynorthwyo Rebecca Masters, ymgynghorydd yn y Tîm Polisi ac Iechyd Rhyngwladol. Yn ogystal, mae’n gweithio’n agos gyda’r Uned Iechyd ac Economeg a’r Hwb Cynaliadwyedd. Ers dechrau 2020, mae Hannah wedi gweithio yn y Sector Cyhoeddus. Dechreuodd fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau Aml-fedrus yn ystod y Pandemig, yna bu’n Gynorthwyydd Gweithredol Personol i’r Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl cyn bod yn Gynorthwyydd Personol i Rebecca. Y tu allan i’r gwaith, mae Hannah wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu ynghyd â’i bleiddgi a’i cheffylau.