« Cyfeiriadur staff

Helen yw Swyddog Cefnogi Prosiect yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd. Ymunodd ym mis Mehefin 2023 a’i rôl yw cydlynu a chefnogi gwaith y tîm yn enwedig ym maes cyfathrebu, ymgysylltu a bioamrywiaeth. Cyn ymuno ag ICC, bu Helen yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn y sector cadwraeth natur yn rheoli rhaglenni ymgysylltu â phobl a rhaglenni allgymorth. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o rolau o fewn timau cynaliadwyedd awdurdodau lleol ac wedi gweithio ym maes Masnach Deg a datblygu rhyngwladol. Mae Helen yn angerddol dros natur ac wrth ei bodd yn treulio amser y tu allan naill ai’n cerdded, garddio, braslunio neu dynnu lluniau o bethau diddorol!