Mae James yn Seicolegydd Iechyd dan hyfforddiant sydd yn astudio am Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Ymunodd â WHO CC ym mis Gorffennaf 2023 yn Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad, ac mae wedi’i leoli yn yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae James yn teimlo’n angerddol am wella iechyd meddwl, iechyd corfforol ac ymgysylltiad cymunedol/cymdeithasol. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau teithio, ffilmiau, cerddoriaeth a darllen.