« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Jennifer ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 ac mae wedi gweithio ar draws Cyfarwyddiaethau amrywiol cyn ymuno â’r Hwb ACE mewn amrywiaeth o rolau, megis Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr Rhaglen yn y Rhaglen Gweithredu’n Gynnar gyda’n Gilydd ac yn fwy diweddar fel Rheolwr Cymorth Busnes i’r tîm gweinyddol ar ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i Covid.

Mae Jennifer yn mwynhau’r her o weithio mewn amgylchedd prysur sydd â’r nod o sicrhau newid i’n cenedl. Mae hi’n edrych ymlaen at gynorthwyo’r tîm a’u cefnogi i gyflawni eu nodau wrth helpu Cymru i ddod yn fwy gwybodus am drawma.

Mae gan Jennifer fywyd teuluol prysur ac mae ei hamser hamdden yn aml yn canolbwyntio ar gael trefn arnynt!