Mae Jo yn rhoi cymorth gweinyddol a chymorth adnoddau fel rhan o dîm gweinyddol Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a hwyluso cyfarfodydd a digwyddiadau; casglu a dosbarthu adnoddau; cysylltu â chyflenwyr a phrosesu ymholiadau; cydlynu gwybodaeth fel ei bod yn llifo’n esmwyth drwy’r tîm a phartneriaid allanol. Buodd hi’n frechwr gyda thîm imiwneiddio COVID-19 yng Nghwm Cynon a Merthyr Tudful yn y gorffennol. Pan gafodd ei hadleoli, bu’n gweithio gyda Nyrsys Ardal Treharris yn darparu gofal clwyfau ac ati yn y gymuned. Cyn y pandemig, roedd hi’n weithiwr cymorth i Drive Ltd. Ar un adeg, roedd Jo yn Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer ‘AimHigher West Midlands’ a threuliodd ddegawd fel awdur llawrydd. Mae hi’n mwynhau hel achau ac ymchwilio’n ddwfn i hanes.