« Cyfeiriadur staff

Mae Kath yn ymchwilydd profiadol ac mae wedi gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru ers 2012. Gan weithio fel Rheolwr Rhaglen Rhyngwladol, mae’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar ymchwilio i ddulliau ar gyfer cyfrifo a mesur gwerth cymdeithasol, yn cynnwys Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) a rheoli Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi). Yn ogystal, trwy secondiad i Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), bydd Kath yn archwilio’r ffordd y gellir defnyddio Asesu’r Effaith ar Iechyd fel llwyfan ar gyfer dadansoddi SROI, a bydd hefyd yn rhoi cyngor, hyfforddiant ac arweiniad ar ddefnyddio HIA.

Mae ei chefndir fel ymchwilydd yn y gwyddorau cymdeithasol, polisi cymdeithasol, troseddeg ac ystadegau, wedi gweithio yn y gorffennol fel Uwch Swyddog Ymchwil i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac fel Dadansoddwr Ystadegol i Ystadegau Seland Newydd. Mae gan Kath MSc mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol a BSc Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Polisi Cymdeithasol a Throseddeg, y ddau o Brifysgol Caerdydd.

Mae Kath hefyd yn aelod o Social Value UK.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl