« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Khudayja Datoo-Jaffer â’r Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Awst 2025 fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad. Mae hi’n Seicolegydd Iechyd dan Hyfforddiant sydd wedi ennill profiad yn y GIG a lleoliadau addysg uwch drwy ei gwaith fel rhan o raglen beilot GIG Lloegr, sef gwreiddio gwyddor ymddygiad wrth drawsnewid y gweithlu. Mae portffolio newid ymddygiad Khudayja yn amrywio ar draws ymddygiad eisteddog galwedigaethol, ymddygiadau yn y gweithle ar ôl profedigaeth, Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif ac arferion hylendid dwylo rhyngwladol. Yn glinigol, mae ganddi brofiad ym meysydd gofal canser, meddygaeth amdriniaethol a chyflyrau hirdymor. Y tu allan i’r gwaith, efallai y byddwch chi’n dod o hyd i Khudayja ar y cwrt badminton (yn chwarae braidd yn rywsut-rywsut) neu â’i thrwyn mewn llyfr (byddwch yn ofalus: gwae chi os byddwch yn gofyn am argymhellion llyfrau)!