Ymunodd Lara â WHO CC yn 2019 fel Arweinydd Rhaglen Atal Trais. Mae Lara yn arwain gweithgaredd iechyd y cyhoedd yn Uned Atal Trais Cymru. Mae hyn yn cynnwys arweinyddiaeth strategol, ymchwil, gwerthuso ac eiriolaeth ar gyfer ymagwedd iechyd y cyhoedd tuag at atal trais. Mae’n rheoli tîm amlasiantaeth o arbenigwyr ac ymchwilwyr plismona ac iechyd y cyhoedd. Cyn y rôl yma, gweithiodd Lara i Public Health England ac ym maes iechyd y cyhoedd awdurdod lleol. Mae ganddi MSc mewn Iechyd y Cyhoedd o Brifysgol Gorllewin Lloegr ac mae wedi gwneud rhaglen Mentora Atal Trais ac Anafiadau WHO (Rhaglen MENTOR-VIP).