« Cyfeiriadur staff

Mae Laura yn ymchwilydd yn yr Hyb ACEs ac mae wedi gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol ers dros 20 mlynedd ym maes datblygu polisi ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae Laura wedi bod yn astudio seicoleg trwy gydol ei gyrfa, ac ar ôl bron â chwblhau doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg Iechyd, mae gan Laura ddiddordeb ymchwil penodol mewn ACE, trawma a gwydnwch. Mae Laura yn edrych ymlaen at ymestyn canlyniadau ei hymchwil i nodau ehangach gwaith yr Hyb ACEs. Gydag angerdd am lesiant, mae Laura yn awyddus i helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial drwy roi’r cymorth a’r gefnogaeth gywir.

Yn ei hamser hamdden, mae Laura yn hyfforddi pobl ifanc mewn ffitrwydd, yn hyfforddwr rhedeg cymwys ac yn dysgu dosbarthiadau sbin yng nghanolfannau hamdden Bro Morgannwg. Fel hyrwyddwr llesiant yn y gweithle profiadol, mae Laura yn awyddus i barhau â hyn yn ei rôl bresennol a helpu i gefnogi’r tîm i hybu iechyd a llesiant yn y gweithle.