Mae Lauren yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd i Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gweithio yng Nghyfarwyddiaeth Polisi WHO CC ar yr agenda iechyd rhyngwladol.
Graddiodd Lauren gyda gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Manceinion, lle cwblhaodd draethawd hir yn ymchwilio i effaith gwasanaethau Profi a Chwnsela HIV/AIDs gwirfoddol lle’r oedd ymyriadau lleihau stigma ar waith.
Mae wedi cwblhau BSc yn y Gwyddorau Dynol yn Ysgol Anthropoleg Prifysgol Durham. Cwblhaodd Lauren ei thraethawd hir ym Mhrifysgol Gorllewin Bohemia, Gweriniaeth Tsiec mewn astudiaeth gymharol o agweddau tuag at MMR a’r amrywiadau diwylliannol.
Mae Lauren wedi treulio amser yn byw ac yn gweithio yn Zanzibar, Madrid ac India lle cynorthwyodd mewn rhaglen datblygu cymunedol.
Yn fwy diweddar, mae Lauren wedi cymryd rhan yn Ysgoloriaeth Gastein Ifanc, sydd yn brosiect ar y cyd gan Fforwm Rhyngwladol Gastein, y Comisiwn Ewropeaidd a Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd wedi ei anelu at weithwyr proffesiynol ifanc ar draws Ewrop sydd yn gweithio ym maes iechyd ac mae wedi rhoi cyfle iddi ddatblygu cymwyseddau iechyd y cyhoedd pwysig fel y gallu i ddatblygu cynghreiriau a phartneriaethau, dysgu sgiliau eiriolaeth a pherswâd a datblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu mewn cyd-destun Ewropeaidd.
Mae’n Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Cofrestredig y DU yn Iechyd y Cyhoedd (PR0243).