Ymunodd Leah ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2022 fel Uwch Swyddog Polisi a Datblygu Tystiolaeth Ryngwladol ac mae’n rheoli tîm Polisi yn ystod cyfnod mamolaeth. Cyn y rôl hon, bu Leah yn gweithio yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac yng Nghymdeithas Swyddogion Iechyd y Wladwriaeth a Thiriogaethol (ASTHO) yn yr Unol Daleithiau, lle helpodd i adeiladu gallu arweinyddiaeth asiantaethau iechyd y wladwriaeth a thiriogaethol i nodi, datblygu a gweithredu cyfraith a pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hefyd wedi gweithio yn llywodraeth y wladwriaeth yn gyfreithiwr iechyd y cyhoedd.
Mae gan Leah MSc mewn Polisi Iechyd, Cynllunio ac Ariannu o LSE ac LSHTM (2021), doethuriaeth juris o Penn State Law (2013) a BA mewn gwyddor wleidyddol o Brifysgol George Washington (2010).