Mae Liz yn arwain ar Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac mae’n arbenigwr rhyngwladol ar y pwnc yn ogystal ag integreiddio iechyd a llesiant i sectorau ‘heblaw iechyd’ fel cynllunio defnydd tir i yrru dulliau ‘iechyd ym mhob polisi’. Mae hyn yn cynnwys ffocws clir ar ennyn cydweithrediad traws-sectoraidd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel rhan o bolisïau a chynlluniau. Mae Liz hefyd yn arwain y Ganolfan Cydlynu Iechyd Ryngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Liz yw prif awdur yr HIA ar ‘Brexit’ yng Nghymru a’r HIA ar y ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’. Mae Liz yn Athro Gwadd er Anrhydedd, Adran Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Lerpwl. Mae Liz yn Athro Gwadd mewn Cynllunio Gofodol ac Iechyd yn y Ganolfan Gydweithredol ar gyfer ‘Amgylcheddau Trefol Iach’ Sefydliad Iechyd y Byd (Canolfan Gydweithredol WHO), Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.