Ymunodd Lois ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym Mehefin 2021 fel rhan o’r tîm Ymchwil a Gwerthuso, lle cynhaliodd ymchwil meintiol ac ansoddol mewn i’r berthynas rhwng gwaith a iechyd, a mewn i iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Mae ei chefndir mewn seicoleg, ac fe gwblhaodd ei PhD ar y ffyrdd y gellir ei ddefnyddio i siapio dewisiadau dietegol yn 2022. Symudodd i’r Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Hydref 2024, ac mae nawr yn gweithio fel Uwch Swyddog Gwyddor Ymddygiad, gan ddefnyddio ei sgiliau ymchwil a gwerthuso wrth ddatblygu mewnwelediadau ymddygiadol a gwerthuso ymyriadau. Tu hwnt i’w gwaith, mae’n gerddor a sgwennwr brwd.