Ar hyn o bryd mae Michael yn gweithio fel Swyddog Iechyd y Cyhoedd yn Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), gan arbenigo mewn Polisi ac Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Mae Michael yn cydlynu Rhwydwaith Ymarfer HIA, yn cefnogi darparu cyngor, hyfforddiant ac arweiniad ar HIA ac yn arwain ac yn cyfrannu at HIAs a gynhelir yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar feysydd fel masnach ac iechyd, newid hinsawdd a chyflogaeth. Mae Michael hefyd yn cefnogi prosiectau eraill o fewn y tîm gan gynnwys cyfathrebu a rheoli gwefannau. Mae wedi gweithio’n flaenorol yn y tîm Polisi a’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol.