« Cyfeiriadur staff

Mae Morgan Savoury yn Swyddog Cymorth Prosiectau Ymchwil (Cydlynu ac Ymgysylltu Rhaglenni) ym Mhrifysgol Bangor. Ymunodd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023 a bu mewn amryw o rolau ymchwil a chefnogi prosiectau yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Mae Morgan wedi cyfrannu at brosiectau ar hyfforddiant ar sail trawma, aflonyddu ar sail rhywedd, mesurau cyllidol, a gwerth ymyriadau iechyd y cyhoedd. Mae ganddi radd BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Bryste ac mae wedi datblygu gwybodaeth sylfaenol gref mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac economeg iechyd. Mae Morgan yn angerddol am hyrwyddo cydraddoldeb iechyd a dulliau ataliol yn ei gwaith. Mae hi’n fedrus ym maes cyfathrebu, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfosod tystiolaeth, dadansoddi data a rheoli prosiectau. Yn ei amser hamdden, mae Morgan yn mwynhau teithio, gwrando ar bodlediadau, a mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl