« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Muqaddasa â Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) ym mis Medi 2023 fel Swyddog Cymorth Cyfathrebu yn gweithio ar draws yr Uned Atal Trais (VPU) a’r Hyb ACE i gefnogi eu cyfathrebu mewnol ac allanol. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Muqaddasa yn gweithio fel Intern Allgymorth STEM yn NUSTEM, Prifysgol Northumbria lle bu’n gweithio’n bennaf yn hyrwyddo STEM ymhlith plant yn yr ysgol gynradd a’r blynyddoedd cynnar.

Mae gan Muqaddasa gefndir academaidd mewn gwyddoniaeth fiofeddygol a chefndir proffesiynol mewn cyfathrebu gan weithio fel newyddiadurwr yn y Daily Mirror- Sri Lanka. Bu’n canolbwyntio ar faterion cyfiawnder cymdeithasol, ac iechyd y cyhoedd. Bu hi hefyd yn gweithio yn Sisterhood Initiative gyda menywod a merched sy’n perthyn i gymunedau lleiafrifol yn Sri Lanka ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol, diwygiadau i’r gyfraith a thrais ar sail rhywedd. Y tu allan i’r gwaith, mae Muqaddasa yn hoffi nosweithiau tawel yn darllen llyfrau neu’n gwylio rom-coms.