Ymunodd Natalie â’r tîm ym mis Mehefin 2021, ar ôl gweithio yn y trydydd sector arbenigol trais yn erbyn menywod a merched am 13 blynedd mewn rolau cymorth rheng flaen ac uwch reolwr.
Ar hyn o bryd, Natalie sy’n arwain y Strategaeth, y Sgiliau a’r Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer Hwb ACE Cymru, a letyir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan y tîm uchelgais i Gymru ddod yn arweinydd byd o ran atal, lliniaru a mynd i’r afael ag effeithiau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a thrawma. Mae’r rôl hon wedi bod yn canolbwyntio ar dreialu’r Pecyn Cymorth TrACE, sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo newid diwylliant ar lefel sefydliadol, y mae ei angen i ymgorffori ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma ac ACE.