
Ymunodd Natasha ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019 ac mae hi wedi bod yn chwarae rhan mewn gwaith ymchwil sy’n ymwneud â sawl maes iechyd y cyhoedd, gan gynnwys newid hinsawdd, atal trais a chlefydau trosglwyddadwy. Cyn y rôl hon, cwblhaodd Natasha MSc mewn adsefydlu trwy ymarfer ym Mhrifysgol Bangor. Yn ei hamser hamdden, mae Natasha yn mwynhau cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, yn enwedig gymnasteg a bowldro.