Ymunodd Dr Nicky Knowles â PIH WHO CC ym mis Chwefror 2022 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn yr Uned Gwyddor Ymddygiad fel Prif Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad. Mae Nicky yn Seicolegydd Iechyd Cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd (HCPC) ac yn Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae rôl Nicky yn canolbwyntio ar gynyddu gallu a chapasiti gwyddor ymddygiad ar draws y system gyda’r bwriad o gynyddu i’r eithaf effaith polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu iechyd y cyhoedd. Mae Nicky hefyd yn arwain Cymuned Ymarfer Gwyddor Ymddygiad Cymru gyfan.
Mae gan Nicky dros ugain mlynedd o brofiad yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio i nifer o ddarparwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau, a chyda phoblogaethau amrywiol, mewn rolau gweithredol a strategol. Ym maes iechyd y cyhoedd, mae portffolio Nicky wedi cynnwys Rheoli Tybaco, Camddefnyddio Sylweddau a Dulliau System Gyfan tuag at Ordewdra. Drwy’r profiad hwn mae Nicky wedi datblygu, cyflwyno a gwerthuso ystod o ymyriadau a pholisïau newid ymddygiad, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar lefelau unigol, cymunedol a phoblogaeth. Yn ei hamser hamdden, mae Nicky wrth ei bodd ag ioga, cerdded, a mynd allan i’r awyr agored.