« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Nicky Knowles â WHO CC ym mis Chwefror 2022 yn Uwch Arbenigwr Gwyddoniaeth Ymddygiadol, ac mae wedi’i lleoli yn yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Nicky yn Seicolegydd Iechyd dan hyfforddiant sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Mae rôl Nicky yn canolbwyntio ar gynyddu gallu a chapasiti gwyddor ymddygiad ar draws y system gyda’r bwriad o gynyddu i’r eithaf effaith polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu iechyd y cyhoedd.

Mae gan Nicky ugain mlynedd o brofiad yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio i nifer o ddarparwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau, a chyda phoblogaethau amrywiol, mewn rolau gweithredol a strategol. Ym maes iechyd y cyhoedd, mae portffolio Nicky wedi cynnwys Rheoli Tybaco, Camddefnyddio Sylweddau a Dulliau System Gyfan tuag at Ordewdra. Drwy’r profiad hwn mae Nicky wedi datblygu, cyflwyno a gwerthuso ystod o ymyriadau a pholisïau newid ymddygiad, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar lefelau unigol, cymunedol a phoblogaeth. Yn ei hamser hamdden, mae Nicky wrth ei bodd ag ioga, cerdded, a mynd allan i’r awyr agored.