« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Olivia â’r Uned Gwyddor Ymddygiad fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad ym mis Tachwedd 2024. Bydd yn cyfrannu at y gwaith i feithrin capasiti a galluogrwydd ym maes gwyddor ymddygiad yn genedlaethol. Cyn hynny, bu Olivia yn gweithio mewn Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl y GIG fel rhan o gynllun peilot GIG Lloegr yn ymgorffori gwyddor ymddygiad i gefnogi’r gwaith o drawsnewid y gweithlu. Bu hefyd yn gweithio mewn busnes gofal iechyd digidol newydd gyda grwpiau ac unigolion i’w cefnogi i reoli Diabetes Math 2. Mae ei diddordebau wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn newid ymddygiad iechyd a chyd-ddatblygu â rhanddeiliaid i gefnogi datblygu, gweithredu a gwerthuso ymyriadau. Mae hi hefyd wrth ei bodd ag unrhyw beth yn yr awyr agored ac yn falch o fod yn rhan o dîm sydd â diddordeb cyffredin mewn faniau gwersylla!