Ymunodd Rajendra Kadel ag Iechyd Cyhoeddus Cymru (Iechyd Rhyngwladol WHO CC) ym mis Mawrth 2019 fel Economegydd Iechyd. Mae’n Economegydd Iechyd profiadol gyda chefndir iechyd y cyhoedd cryf. Mae Rajendra yn gyfrifol am gyflwyno achos rhaglenni iechyd y cyhoedd a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn econometreg, dadansoddi effeithiolrwydd cost, elw cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI), asesu technoleg iechyd, modelu dadansoddol penderfyniadau, a gwyddor data mawr yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithiodd Rajendra yn Ysgol Economeg Llundain (economeg iechyd meddwl – 2013 i 2019), Achub y Plant (rhaglen iechyd mamau a phlant – 2011), Medical Emergency Relief International (rhaglen iechyd mamau a phlant a rheoli argyfwng – 2007 i 2010) a’r Adran Gwasanaethau Iechyd/Nepal (gofal iechyd cyffredinol – 2002 i 2004).
Mae gan Rajendra Radd Bagloriaeth Iechyd y Cyhoedd, Gradd Meistr Iechyd y Cyhoedd, Gradd Meistr Ewropeaidd mewn Systemau Iechyd Rhanbarthol a gradd Meistr mewn Cymdeithaseg. Cwblhaodd Rajendra ei radd Meistr mewn Athroniaeth (Economeg Iechyd) yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) yn 2018 yn ystod ei swydd yn LSE.