« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Rich â Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) ym mis Tachwedd 2023 fel Rheolwr Strategaeth, Cynllunio ac Ymgysylltu yn nhîm Hyb ACE Cymru. Cyn ymuno â’r tîm roedd Rich wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol yn y sector chwaraeon, gyda Chwaraeon Cymru i ddechrau ac yn fwyaf diweddar gyda chwmni ymgynghori preifat yn Birmingham o’r enw Sport Structures. Mae’n angerddol am ddefnyddio chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl o bob oed a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Rich wedi ennill profiad gwerthfawr mewn rheoli prosiectau a rhaglenni, datblygu a rheoli perthnasoedd, llywodraethu sefydliadol, datblygu pobl a chymunedau, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Y cyflawniad proffesiynol mae Rich fwyaf balch ohono yw sefydlu a thyfu’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc ledled Cymru yn 2009 i ddatblygu sgiliau arwain pobl ifanc a’u grymuso i wneud gwahaniaeth drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hysgolion a’u cymunedau. Mae’r rhaglen yn dal yn ei anterth heddiw ac mae llawer o bobl ifanc newydd yn cael eu grymuso i ddod yn arweinwyr y dyfodol. Mae’n enghraifft wych o brosiect etifeddiaeth Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Y tu allan i’r gwaith mae Rich yn mwynhau bod yn actif ac fe’i gwelir yn aml yn nofio, beicio neu redeg a hynny rhwng holl weithgareddau ar ôl ysgol ei blant! Mae hefyd yn mwynhau gwylio cerddoriaeth fyw a gwirfoddoli yn ei parkrun lleol a rhedeg digwyddiadau.