« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Sara â Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Gwyddonydd Iechyd Cyhoeddus ym mis Hydref 2022. Mae hi hefyd yn cwblhau PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn gwledydd incwm canolig-isel. Cyn hynny, bu’n gweithio i CDSC fel Epidemiolegydd (Arbenigwr Dadansoddwr Gwybodaeth) yn cadw golwg ar COVID-19. Mae ei diddordebau’n cynnwys ymchwil ansoddol a meintiol, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac iechyd meddwl. Yn ei hamser rhydd, mae Sara yn mwynhau cerdded, chwarae gemau bwrdd a darllen.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl