Rôl Tom o fewn Hyb Ace Cymru yw fel swyddog cymorth prosiect; mae Tom wedi bod gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ers 2021 ac mae wedi gweithio yn flaenorol yn yr is-adran Diogelu Iechyd, fel swyddog gweinyddol i’r tîm Gweithrediadau a’r tîm Camddefnyddio Sylweddau. Roedd Tom hefyd yn aelod o’r Gell Weinyddol Genedlaethol ar gyfer ymateb Covid i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n brofiadol o weithio mewn rôl dan bwysau mawr a gweithio o fewn terfynau amser tynn. Mae profiad blaenorol Tom wedi cynnwys gweithio o fewn y sector manwerthu a’r diwydiant digwyddiadau ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad i Dîm Hyb Ace Cymru. Mae Tom yn mwynhau ffilmiau, padlfyrddio, nofio a cherdded, ond yn bennaf oll mae wrth ei fodd â bwyd, coginio ac archwilio lleoedd newydd i fwyta.