Mae Tracy wedi gweithio yng Nghyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) (PRID yn flaenorol) ers ei sefydlu fel Is-adran yn 2013. Mae Tracy yn gyfrifol am arwain y cynllunio strategol, gweithredol ac ariannol ar gyfer y gyfarwyddiaeth ac mae’n rheoli tîm eang o staff cymorth, rheoli prosiect ac ymchwil. Cyn hyn, roedd yn gweithio yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Lleol ABMU, yn cefnogi amrywiaeth o dimau yn cynnwys blaenoriaethau iechyd y cyhoedd amrywiol, yn cynnwys ysgolion iach, dinasoedd iach a diogelu iechyd. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, treuliodd Tracy’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio yn y sector preifat mewn rolau Gweithredol a Rheoli TG ar draws amrywiaeth o sectorau yn cynnwys cyllid a chyfleustodau a daw ag amrediad da o brofiad i Gyfarwyddiaeth WHO CC ym maes Gweithrediadau, TG, Cyllid, AD a Chynllunio Strategol.