Tracy Evans yw’r Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy yn yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nod Tracy mewn bywyd yw gwneud gwahaniaeth er mwyn cael ffordd o fyw mwy cynaliadwy a chefnogi eraill i wneud yr un peth. Mae Tracy yn angerddol am yr amgylchedd a natur ac mae wrth ei bodd yn treulio amser yn yr awyr agored yn cerdded ac yn beicio mynydd.
Mae gan Tracy brofiad helaeth ym maes rheoli gwastraff amgylcheddol, datblygu cynaliadwy, addysg ar gyfer prosiectau datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, iechyd a llesiant a datgarboneiddio.
Mae prif gyflawniadau Tracy yn cynnwys datblygu a chyflwyno Strategaeth Cerbydau Trydan CBS Caerffili, datblygu prosiect cwch gwenyn rhyngweithiol BEES (Gwenyn yn Addysgu Eco-Sgolion), y cyntaf o’i fath yng Nghymru, datblygu adnoddau addysgol, yn cynnwys yr Adnodd Gemau Byd-eang a’r Adnodd Ysgolion Solar a datblygu cynlluniau gwobrau amgylcheddol, yn cynnwys Cynllun Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Eco a Chynllun Gwobrau Ieuenctid ESDGC.
Mae Tracy ar hyn o bryd yn cynorthwyo’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd gyda phrosiectau yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, datgarboneiddio a bioamrywiaeth.