Ymunodd Victoria ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Awst 2024 fel Cydlynydd Iechyd Rhyngwladol. Daw â chyfoeth o brofiad o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae ganddi raddau mewn Athroniaeth a Busnes a Marchnata, sydd wedi rhoi sylfaen gref iddi mewn meddwl yn ddadansoddol, cynllunio strategol a chyfathrebu effeithiol.
Bu’n gweithio’n flaenorol fel Swyddog Amddiffyn Sifil mewn Rheoli Brigiadau o Achosion yng Nghyngor Dinas Bryste. Chwaraeodd ran ganolog yn yr ymateb i bandemig COVID-19. Yn arbennig, roedd hi’n rhan allweddol o’r gwaith o drefnu Unedau Profi Symudol a Safleoedd Profi Lleol a oedd yn darparu cymorth gweithredol i ymdrechion y cyngor i reoli’r achosion.
Y tu allan i’r gwaith, mae Victoria yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, teithio a phrofi gwledydd a diwylliannau gwahanol. Mae hi’n gwerthfawrogi amser gyda’r teulu ac wrth ei bodd yn treulio amser arbennig gyda’i theulu a’i ffrindiau.