Ers dechrau ei gyrfa, mae Zarqa wedi gweithio mewn gwasanaethau statudol ac anstatudol a’r thema gyffredin yn yr holl rolau fu helpu eraill. Dechreuodd ei gyrfa yn Weithiwr Ieuenctid a Chymunedol ar ôl graddio gan weithio mewn gwasanaethau cyffuriau i bobl ifanc ac yna oedolion. Mae wedi treulio 4 blynedd diwethaf ei gyrfa mewn rolau rheoli Iechyd a Llesiant yn y sector Tai ac Addysg Bellach.
Mae ei rôl Rheolwr Prosiect yn yr Hwb ACE yn canolbwyntio’n bennaf ar y Sector Addysg Bellach a’i gefnogi i ymgorffori a chynnal dull gwybodus am drawma o ran y ffordd y mae’n gweithio gyda dysgwyr a staff. Mae hi’n edrych ymlaen at gael mewnbwn ehangach i amcanion tîm ACE, gan ddefnyddio ei phrofiadau personol a phroffesiynol i helpu i lywio gwaith yn y dyfodol.
Yn ei hamser hamdden mae Zarqa yn Hyfforddwr Criced ac mae ganddi amryw o rolau eraill ym maes criced gan gynnwys Cadw Sgôr. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn ei rhandir lle gall ymlacio a philtran a cheisio tyfu rhai llysiau wrth wneud hynny. Mae ganddi gi bach sy’n ei chadw’n weithgar a phrysur ac mae’n gwneud iddi chwerthin bob dydd!