Sefydlwyd Canolfan Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru yn 2017 ac fe’i sefydlwyd i gefnogi cymdeithas Cymru i helpu i greu Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ac ACE (TrACE) a gwneud Cymru’n arweinydd wrth fynd i’r afael ag ACEs, eu hatal a’u lliniaru. Rydym yn hyrwyddo rhannu syniadau a dysgu, a herio a newid ffyrdd o weithio, fel y gallwn gyda’n gilydd dorri’r cylch ACEs. Mae Canolfan ACE Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n rhan o Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant.

Ein 5 Nod

  • Rhannu gwybodaeth am ACEs, a gwrando a chydweithio gyda chymunedau, plant a theuluoedd i ganfod atebion a fydd yn gweithio.
  • Rhannu tystiolaeth am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol i helpu i atal a lliniaru ACEs, a sut y maent yn cefnogi’r rhai sydd wedi profi ACEs neu Drawma.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol, darparu hyfforddiant er mwyn iddynt allu herio rhwydweithiau mewnol ac allanol ac ysgogi newid.
  • Dysgu oddi wrth ein gilydd, a rhannu gwybodaeth a darparu arbenigedd sy’n arwain at gamau gweithredu.
  • Ysgogi newid drwy herio ffyrdd o weithio, ar draws Cymru gyfan.

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau llawn straen sy’n digwydd yn ystod plentyndod ac yn niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. cam-drin rhywiol neu gorfforol) neu sy’n effeithio ar yr amgylchedd lle mae’n byw (e.e. tyfu i fyny mewn cartref gyda thrais domestig). (Bellis et al 2016)

Mae angen i bob un ohonom ddeall a siarad am ACEs a thrawma, oherwydd po fwyaf y gwyddom, y mwyaf y gallwn feddwl am sut y gallwn sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma. Mae’r Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn darparu diffiniad Cymru o ddull sy’n ystyriol o drawma, ac mae’n Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Os yw ein harfer yn ystyriol o drawma, rydym yn anfeirniadol, yn garedig ac yn dosturiol, gan hyrwyddo gwytnwch a chryfder fel adnoddau cyfunol yn hytrach nag adnoddau unigol. Rydym yn deall pwysigrwydd diogelwch ac ymddiriedaeth wrth fynd i’r afael ag adfyd, trawma a gofid.

Gwefan yr Hwb ACE: www.hybacecymru.com | www.acehubwales.com Gwefan Cymru sy’n Ystyriol o Drawma: www.traumaframeworkcymru.com/cy/ | www.traumaframeworkcymru.com

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.