Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn:
• Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
• Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd.
• Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder.
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn:
• Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau.
• Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau.
• Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa.
• Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol.
Mae’r Canllaw Gwirfoddol yn disodli’r ddogfen flaenorol, sef: Asesu’r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol, a gynhyrchwyd gan WHIASU yn 2012, ac mae’n amlinellu camau arferion gorau ar gyfer cynnal HIAs gwirfoddol.
Gellir defnyddio’r daflen cofnodi sgrinio ar Gam Sgrinio’r broses HIA i helpu i arwain a chofnodi’r trafodaethau. Dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.
Cynlluniwyd y ddogfen hon i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd angen agor y ddogfen yn Adobe Acrobat neu Adobe Acrobat Reader y gellir ei lawrlwytho am ddim oddi ar https://get.adobe.com/uk/reader/
Sylwch, heb Acrobat, byddwch yn gallu gweld y ddogfen ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich gwybodaeth eich hun na chadw’r ffeil.
Dylid defnyddio’r adnodd hwn yn ystod cam Cwmpasu’r broses HIA. Darperir nodiadau canllaw ar ddiwedd yr adnodd hwn i gefnogi’r gwaith o gwblhau’r cam hwn. Yn ddelfrydol, dylai mwy nag un unigolyn gwblhau’r cam cwmpasu.
Cynlluniwyd y ddogfen hon i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd angen agor y ddogfen yn Adobe Acrobat neu Adobe Acrobat Reader y gellir ei lawrlwytho am ddim oddi ar https://get.adobe.com/uk/reader/
Sylwch, heb Acrobat, byddwch yn gallu gweld y ddogfen ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich gwybodaeth eich hun na chadw’r ffeil.
Gellir defnyddio’r templed hwn ar y Cam Arfarnu Tystiolaeth o’r broses HIA i helpu i gofnodi trafodaethau yn ystod gweithdy cyfranogol. Dylid defnyddio hwn ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.
Cynlluniwyd y ddogfen hon i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd angen agor y ddogfen yn Adobe Acrobat neu Adobe Acrobat Reader y gellir ei lawrlwytho am ddim oddi ar https://get.adobe.com/uk/reader/
Sylwch, heb Acrobat, byddwch yn gallu gweld y ddogfen ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich gwybodaeth eich hun na chadw’r ffeil.
Cynhaliwyd yr adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (AEI) hwn gan Dîm y Prosiect Sgrinio Canser yr Ysgyfaint, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o’r GIG, a gefnogwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), drwy hwyluso gweithdy cyfranogol AEI. Sefydlwyd tîm y prosiect ym mis Ebrill 2024 ac fe gafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Medi 2025. Canolbwyntiodd yr AEI cyfranogol cyflym ar gasglu gwybodaeth a mewnwelediad rhanddeiliaid Cymru i’r cynlluniau arfaethedig i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth a’r rhai sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cefndir i’r prosiect ac i’r AEI ei hun, cyn edrych ar y gweithdy AEI Cyfranogol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024 yn fanylach. Mae’n dangos pa grwpiau poblogaeth a nodwyd a’r penderfynyddion iechyd yn unigol, gan ddefnyddio rhestrau gwirio Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd WHIASU. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai’r Rhaglen Sgrinio Canser yr Ysgyfaint Genedlaethol fod o fudd mawr i boblogaeth Cymru, drwy nodi canserau’r ysgyfaint yn gynnar a thrwy hyrwyddo gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu mewn ffordd integredig. Yn ogystal â hyn, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sy’n rhaid ei gwblhau i sicrhau bod rhaglen sgrinio hygyrch a theg yn cael ei chyflwyno.
Mae’r papur briffio hwn, a ddatblygwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (UGAEIC), yn trafod effeithiau posibl tariffau masnach ar iechyd, llesiant a thegwch ar boblogaeth Cymru. Mae wedi’i anelu at randdeiliaid yng Nghymru sy’n gweithio ym meysydd masnach, iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd i’w cefnogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl y gall tariffau masnach eu cael ar iechyd y boblogaeth.
Mae’n dechrau gyda chyflwyniad byr i gytundebau masnach, tariffau a rhwystrau masnach nad ydynt yn dariffau. Yna mae’n amlinellu’r cytundebau masnach diweddaraf y mae’r Deyrnas Unedig (DU) wedi ymrwymo iddynt cyn trafod sut y gall tariffau effeithio ar iechyd, llesiant a thegwch y boblogaeth yng Nghymru. Mae’n gorffen gyda rhai opsiynau ar sut y gellir ystyried iechyd a llesiant yn well mewn cytundebau masnach a nodi effeithiau tariffau. Yn olaf, mae’n cyflwyno dau enghraifft astudiaeth achos o sut y gall masnach effeithio ar bobl a’r economi yng Nghymru.
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol trefol a gwledig yng Nghymru i ystyried, cynnwys a hyrwyddo iechyd a lles drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) a’r system gynllunio. Mae’n rhoi tystiolaeth ac arweiniad ynghylch sut y gellir cyflawni hyn a pham mae’r cysylltiadau rhwng cynllunio ac iechyd mor bwysig. Gall y canllaw fod yn sail i bapur cefndir tystiolaeth ar gyfer CDLlau neu ganllawiau cynllunio atodol (CCA) ac mae’n cynnwys pum adran.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’r dulliau a’r canfyddiadau allweddol o adolygiad o sut mae iechyd wedi’i gynnwys mewn astudiaethau achos Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru ac effeithiolrwydd Cynlluniau Datblygu Lleol wrth gefnogi cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant. Bwriad yr adroddiad yw llywio a chefnogi Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru.
Mae’r system cynllunio yng Nghymru yn gweithredu ar dair lefel: cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn llywio’r defnydd o dir a datblygiadau ar lefel yr Awdurdod Lleol. Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), yn rhoi adolygiad cryno o’r modd y caiff iechyd ei gynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) ledled Cymru. Prif nod yr adroddiad hwn yw llywio dull UGAEIC o gefnogi llywodraethau lleol i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn CDLlau. Bydd y canfyddiadau hefyd yn ychwanegu gwerth ar gyfer rhanddeiliaid eraill sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant wrth iddo amlygu cyfleoedd ar gyfer cryfhau’r broses o gynnwys iechyd mewn cynlluniau lleol. Bu i’r broses o adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ddatgelu nifer o gyfleoedd i atgyfnerthu eu rôl o ran hyrwyddo iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r CDLlau yn mynd i’r afael yn anuniongyrchol â f factorau sy’n ymwneud ag iechyd trwy bolisïau cynllunio megis tai, trafnidiaeth a’r ansawdd amgylcheddol. Nifer bach o’r cynlluniau sy’n diffinio iechyd neu anghydraddoldebau iechyd yn benodol, ac nid oes yr un ohonynt yn cynnwys dangosyddion neu fesurau iechyd penodol. Er bod pob CDLl yn ymgorffori elfennau sy’n dylanwadu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis mynediad at wasanaethau ac ansawdd tai, mae’r cysylltiadau hyn â chanlyniadau iechyd ymhlyg yn aml, yn hytrach nag wedi’u nodi’n glir. Canfu ein dadansoddiad fod CDLlau eisoes yn cynnwys nifer o elfennau a all gefnogi iechyd a llesiant y boblogaeth. Trwy sicrhau bod y goblygiadau iechyd hyn yn benodol, diffinio cysyniadau iechyd allweddol yn glir, ac ymgorffori dangosyddion iechyd mesuradwy, gallai CDLlau ddatblygu eu potensial i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled cymunedau Cymru mewn modd mwy effeithiol.