Adroddiad newydd: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd
Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, […]
Nodwch y Dyddiad! Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Dydd Iau 8 Chwefror 2024 9:30am – 12.30pm (ar-lein) Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol a gefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â […]
Digwyddiad: Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd
Ydych chi’n ymwneud â chynllunio asesiad lleol am risg hinsawdd? Hoffech chi ddysgu mwy am sut mae pobl a chymunedau yng Nghymru yn agored i newid yn yr hinsawdd? Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd ar-lein nesaf. Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus […]
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer Addasu Hinsawdd: Enghreifftiau o Ymarfer
Mae’r nodyn briffio hwn yn canolbwyntio ar addasu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghymru a chymhwyso Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd wrth gynllunio polisïau addasu. Mae’n cynnwys pum […]