Pennu Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd y Cyhoedd: Astudiaeth Genedlaethol sy’n Defnyddio Dull Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru
Cydnabyddir mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd byd-eang yn yr 21ain ganrif ac mae’n effeithio ar iechyd a llesiant trwy amrywiaeth o ffactorau. Oherwydd hyn, mae’r angen i gymryd camau i ddiogelu iechyd a llesiant y boblogaeth yn dod yn fwyfwy brys. Yn 2019, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Asesiad o’r Effaith ar Iechyd […]
Sut mae WHIASU yn paratoi ar gyfer cyflwyno Rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)
Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliadau statudol asesiadau HIA Llywodraeth Cymru, sy’n dilyn ymlaen o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’n nodi: “Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu […]
Adroddiad newydd: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd
Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, […]
Nodwch y Dyddiad! Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Dydd Iau 8 Chwefror 2024 9:30am – 12.30pm (ar-lein) Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol a gefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â […]
Adroddiad newydd: Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor […]
Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA)
Mae papur newyddiadurol newydd yn y BMJ, a gafodd ei gyhoeddi a’i gyd-awduro gan aelodau o dîm Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), yn ystyried goblygiadau iechyd penderfyniad y DU i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) Mae’r papur yn […]
WHIASU yn ymddangos mewn e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae’r e-fwletin yma o Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar y Dyfodol ac Iechyd yn dilyn cynhadledd lwyddiannus iawn o’r enw ‘Ffurfio Ein Dyfodol yng Nghymru: Dyfodol ar gyfer Gwneuthurwyr Penderfyniadau yn y Sector Cyhoeddus’. Yn yr e-fwletin mae erthygl ar y Brexit HIA. Mae Liz Green o WHIASU, hefyd wedi creu podcast. I clywed y […]
WHIASU yn Cyhoeddi Cylchlythyr Gaeaf 2018/19
Mae’r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi cyhoeddi ei cylchlythyr Gaeaf 2018/19. Mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys erthyglon ar y Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, diweddariad ar y waith Cydgordio Iechyd y Cyhoedd a Chynllunio Defnydd o Dir, a syniadau ar gyfer adnoddau a […]
Adroddiad Newydd wedi ei Lansio gan y TCPA ar Ailuno Iechyd â Chynllunio
Ddydd Llun 21 Ionawr 2019, lansiodd y Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) adroddiad newydd yn Nhŷ’r Cyffredin o’r enw “”The State of the Union. Reuniting Health with Planning in Promoting Healthy Communities.” (ar gael yn Saesneg yn unig.) Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o effeithiolrwydd y cydweithio rhwng y sectorau cynllunio, iechyd cyhoeddus […]