Sut gall cynllunio lunio cymunedau iachach ledled Cymru
Mae adroddiad ymchwil newydd wedi canfod bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn cynnig cyfle allweddol i sicrhau bod y system gynllunio yn cefnogi iechyd a llesiant pobl a chymunedau ledled Cymru. Archwiliodd yr adroddiad, ‘Cyflawni Blaenoriaethau Iechyd a Llesiant y Cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru’ a baratowyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru gan […]
Arolwg Iechyd Byd-eang ym Mhob Polisi 2025
👉 Mynediad i’r arolwg yma (Saesneg yn unig): https://www.surveymonkey.com/r/MFPY2QQ Mae’r arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Gallwch gael seibiant a dychwelyd ato yn ôl yr angen—bydd eich ymatebion yn cael eu harbed fesul tudalen. Mae cymryd rhan yn wirfoddol, a bydd yr holl ddata yn cael eu trin yn gyfrinachol. Dim ond ar […]
Iechyd mewn Cynllunio: Rôl iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn arwain datblygiad tir a defnydd ohono mewn ardal benodol. Maent yn ddogfennau statudol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol ledled Cymru. Maent yn nodi graddfa’r twf mewn ardal leol at ddibenion preswyl, masnachol, diwydiannol a hamdden, ac yn nodi’r strategaeth ofodol neu’r strategaeth leoli ar gyfer […]
e-Ddysgu Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs) Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC)
Mae e-Ddysgu Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs) Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) ar gael ar wefan Dysgu@Cymru. Mae hwn yn gwrs am ddim, sydd ar gael i unrhyw un ei gyrchu. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n cynnal HIAs, yn eu hadolygu neu’n defnyddio HIAs fel […]
Digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) nesaf – Masnach fel Penderfynydd Masnachol Allweddol ar Iechyd
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) yn cynnal ein digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer HIA nesaf ar-lein ddydd Iau 4 Medi 2025 rhwng 10.00 a 11.30am Amser Haf Prydain (BST). Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i’r rheiny sy’n bresennol ddysgu am y gwaith sy’n digwydd yng […]
Gwirfoddolwyr i arddangos eu gwaith yn nigwyddiad nesaf Rhwydwaith Ymarfer HIA ym mis Mai:
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd WHIASU yn cynnal ein digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer HIA nesaf ddydd Mercher 21 Mai 2025 rhwng 10:00 a 12:00. Bydd hwn yn gyfle gwych i aelodau arddangos eu gwaith sy’n ymwneud â HIA, cyfnewid mewnwelediadau, a chael atebion i gwestiynau HIA gan dîm WHIASU. Os hoffech gyflwyno’ch gwaith, […]
Symud y cwrs E-ddysgu Cyflwyniad i Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd i wefan Dysgu@Cymru
Mae’r cwrs e-ddysgu Cyflwyniad i Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) sy’n rhad ac am ddim bellach ar gael mewn lleoliad newydd. Mae’r cwrs bellach ar gael ar y platfform Dysgu@Cymru, ble y gall UGAEIC drefnu cyfrifon i ddefnyddwyr gael mynediad at y cwrs. Gall unrhyw un […]
Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn nodi 20 mlynedd o ‘lunio Cymru iachach’
Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi nodi 20 mlynedd o helpu i “lunio Cymru iachach a thecach”. Dathlodd yr uned, sy’n darparu arweiniad, hyfforddiant, adnoddau a gwybodaeth mewn perthynas â chynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd, y garreg filltir ar 14 Tachwedd drwy gynnal gweminar mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn […]
Digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)
Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd: 14 Tachwedd 2024 13:00 – 15:00 Mae’r dirwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydlu’r uned yn 2004. Bydd […]
