12 Gorffennaf 2022

Adroddiad newydd: Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir. Dull Asesu Effaith Lles Meddyliol.

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru. Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio […]

24 Mehefin 2022

Adroddiad newydd: Effaith iechyd y cyhoedd cyrff cyhoeddus yn ailffocysu ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru

Mae’r adroddiad – ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer […]

20 Ebrill 2022

Rhwydwaith Newydd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) – digwyddiad lansio

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio rhwydwaith HIA newydd mewn digwyddiad rhithwir ddydd Iau 26 Mai.  Cynhelir y digwyddiad ar-lein drwy Microsoft Teams rhwng 10am a hanner dydd.  Ymunwch â ni i ddysgu mwy am rwydwaith HIA ac i rannu syniadau fel rhan o’r gwaith o […]

11 Ebrill 2022

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru, Pwyslais ar: Gymunedau Gwledig

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio. Mae’r Papur Sbotolau hwn yn canolbwyntio ar y materion y gall cymunedau gwledig eu […]

7 Chwefror 2022

Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19 Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi

Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ym maes cynllunio gofodol gyda chydweithwyr ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl wrth adfer o bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn digwyddiad ‘Creu lleoedd a mannau iach: dull […]

26 Tachwedd 2021

Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch

Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) a’r Tîm Polisi yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch’. Mae’r Asesiad o Effaith ar […]

2 Tachwedd 2021

Adnodd newydd yn tynnu sylw at effeithiau newid yn yr hinsawdd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau. Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio […]

19 Hydref 2021

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Ddiogelwch Bwyd

Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Cyfarwyddiaeth ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) wedi cyhoeddi ail adroddiad byr sy’n datod rhai o effeithiau cronnus Brexit, COVID-19 a newid hinsawdd ar iechyd a lles yng Nghymru. Yn dilyn ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 […]

8 Hydref 2021

Pecyn cymorth newydd yn galluogi i iechyd gael ei gynnwys mewn cynllunio tir yn y dyfodol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.  Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau […]