Mae Hayley yn Ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y gorffennol bu’n gweithio ar y rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd, partneriaeth rhwng iechyd a phlismona i leihau effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) ar genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru trwy ddatblygu gweithlu wedi’i lywio gan drawma. Cwblhaodd Hayley PhD mewn Maeth Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, gan ymchwilio “Patrymau dietegol, penderfynyddion cymdeithasol-ddemograffig a ffordd o fyw, ac olion bysedd metabolit mewn sampl gymunedol o ddefnyddwyr bwyd tecawê Glannau Mersi”. Mae ganddi arbenigedd ymchwil mewn maeth, ACEs, plismona, cyfiawnder troseddol, atal trais a Coronafeirws (COVID-19), gan ddefnyddio dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol. Mae gan Hayley hefyd arbenigedd addysgu mewn maeth cymunedol, asesu dietegol a dulliau ymchwil. Yn ei hamser hamdden, mae Hayley yn mwynhau teithio, coginio a theithiau cerdded gwledig.