Cadw’n gynnes gartref yn ystod y gaeaf yng Nghymru: Gwahaniaethau mewn ymddygiad gwresogi, strategaethau ymdopi a llesiant o 2022 i 2023

Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gadw’n gynnes gartref yn ystod y gaeaf. Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau arolwg cenedlaethol ar gartrefi trigolion 18 oed a hŷn yng Nghymru rhwng Ionawr a Mawrth 2022 (cam un) ac a ailadroddwyd rhwng Ionawr a Mawrth 2023 (cam dau). Mae’r canfyddiadau’n defnyddio sampl o 507 o gyfranogwyr a gwblhaodd y ddau arolwg.

Awduron: Kat Ford, Nicholas Carella+ 5 mwy
, Rebecca Hill, Hayley Janssen, Lauren Heywood, Daniella Griffiths, Sumina Azam

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma: Adnodd i weithwyr proffesiynol a sefydliadau

Gall hyn osod baich sylweddol ar gymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus. Nod yr adnodd newydd hwn yw cefnogi camau gweithredu ar ACEs drwy roi cyngor ymarferol ar atal ACEs, meithrin gwytnwch a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal ACEs a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.

Awduron: Sara Wood, Hayley Janssen+ 3 mwy
, Karen Hughes, Jonathon Passmore, Mark Bellis

Tymereddau oer dan do a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod tymereddau dan do o <18°C yn cael eu cysylltu ag effeithiau iechyd negyddol. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi, asesu a diweddaru tystiolaeth ar y cysylltiad rhwng tymereddau oer (h.y. <18°C) mewn cartrefi a’r canlyniadau iechyd a llesiant. Mae bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth gyfredol yn cael eu nodi, yn cynnwys ymchwil ar effeithiau tymereddau oer ar iechyd meddwl a llesiant, astudiaethau’n cynnwys plant ifanc ac effeithiau hir dymor tymerddau oer dan do ar iechyd.

Awduron: Hayley Janssen, Kat Ford+ 5 mwy
, Ben Gascoyne, Rebecca Hill, Manon Roberts, Mark Bellis, Sumina Azam

Cartrefi oer a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig

Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ar y naill law ac iechyd a llesiant ar y llaw arall.

Awduron: Hayley Janssen, Ben Gascoyne+ 4 mwy
, Kat Ford, Rebecca Hill, Manon Roberts, Sumina Azam

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) a COVID-19 yn Bolton

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio archwilio unrhyw gysylltiad rhwng amlygiad ACE a haint COVID-19, ar gyfer poblogaeth Bolton. Bydd hefyd yn ceisio nodi a yw amlygiad ACE yn gysylltiedig â’r canlynol: ymddiriedaeth mewn gwybodaeth iechyd COVID-19; agweddau tuag at, a chydymffurfiaeth â chyfyngiadau COVID-19 (e.e. defnyddio gorchuddion wyneb, cadw pellter cymdeithasol); ac agweddau tuag at frechu rhag COVID-19. Bydd gwell dealltwriaeth o berthnasoedd o’r fath yn helpu gwasanaethau lleol i ddeall sut y gallant annog cydymffurfiaeth â chyfyngiadau iechyd y cyhoedd a’r nifer sy’n cael eu brechu; gwybodaeth sy’n hanfodol ar gyfer targedu negeseuon iechyd a rheoli bygythiadau i iechyd y cyhoedd, gan gynnwys pandemigau yn y dyfodol.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 2 mwy
, Hayley Janssen, Mark Bellis

Gwerthusiad o hyfforddiant Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Drawma (TAT) Cyfiawnder Troseddol: cyflwyno cenedlaethol i aelodau Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) ledled Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn un o gyfres o gyhoeddiadau ymchwil a fydd yn ein galluogi i ddeall a dangos tystiolaeth effaith y rhaglen E.A.T.

Awduron: Jessica Beer, Hayley Janssen+ 2 mwy
, Freya Glendinning, Annemarie Newbury

Deall galw di-frys i Heddlu Gogledd Cymru: Astudiaeth arsylwadol o’r Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd

Fel rhan o’r rhaglen Gweithredu Cynnar Gyda’n Gilydd (EAT), aeth Heddlu Gogledd Cymru (HGC) ar drywydd y cyfle i ddylunio astudiaeth ymchwil gyda thîm ymchwil EAT, i gasglu tystiolaeth gychwynnol ar alwadau di-frys, i lywio penderfyniadau ymhellach ar sut orau i fynd i’r afael â’r galwadau hyn i gefnogi unigolion bregus trwy drefniadau gweithio amlasiantaethol. Roedd yr astudiaeth hon yn flaenoriaeth i HGC amlinellu meysydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w hystyried; i helpu i lunio argymhellion ar gyfer ymyrraeth gynnar sy’n targedu galwyr bregus a lleihau’r galw yn y dyfodol.

Awduron: Hayley Janssen, Gabriela Ramos Rodriguez

Hyfforddiant wedi’i lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME): Dilyniant heddlu a phartneriaid wedi 15 mis

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar werthusiad dilynol gyda chyfranogwyr hyfforddiant ACE TIME. Mae’n ceisio darganfod a gynhaliwyd y newidiadau cadarnhaol a nodwyd yn y gwerthusiad hyfforddiant ACE TIME cychwynnol ar ôl naw i bymtheg mis ar ôl mynychu’r hyfforddiant.

Awduron: Gabriela Ramos Rodriguez, Freya Glendinning+ 2 mwy
, Sophie Harker, Hayley Janssen

Safbwyntiau’r heddlu ar effaith yr hyfforddiant wedi’i Lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME) ar draws Cymru

Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn fanwl ar brofiad yr heddlu yn ystod rhaglen genedlaethol o drawsnewid a newid diwylliannol. Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfweliadau gyda swyddogion yr heddlu a staff a dderbyniodd Hyfforddiant ACE TIME. Mae’n archwilio ei safbwyntiau ar effaith yr hyfforddiant ar eu gwybodaeth a’u hymarfer a’u hagweddau tuag at y gwasasnaeth Cydlynydd ACE a gyflwynodd yr hyfforddiant a’r cymorth parhaus i blismona gweithredol.

Awduron: Hayley Janssen, Sophie Harker+ 4 mwy
, Emma Barton, Annemarie Newbury, Bethan Jones, Gabriela Ramos Rodriguez

Asesiad cyflym o ailagor bywyd nos gan gyfyngu COVID-19 ac atal trais

Er mwyn cefnogi gwaith asiantaethau partner i ailagor bywyd nos yn ddiogel yn dilyn y cyfnod clo COVID-19 cyntaf, cynhaliodd Uned Atal Trais Cymru ymchwil cyflym i asesu’r dystiolaeth a’r arfer gorau byd-eang oedd yn dod i’r amlwg ar gyfer ailagor bywyd nos tra’n rheoli COVID-19 ac atal trais. Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau allweddol o sut mae bywyd nos wedi ailagor ledled y byd, sut y gall mesurau i leihau risgiau COVID-19 effeithio ar risgiau trais, ac yn darparu ystyriaethau allweddol ar gyfer agor bywyd nos yng Nghymru.

Awduron: Hayley Janssen, Katie Cresswell+ 7 mwy
, Natasha Judd, Karen Hughes, Lara Snowdon, Emma Barton, Daniel Jones, Sara Wood, Mark Bellis

Gwerthusiad o’r hyfforddiant wedi’i lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME): cyflwyno’n genedlaethol i’r heddlu a phartneriaid

Nod rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd Cymru gyfan (E.A.T.) oedd datblygu ymateb systemau cyfan i bobl sy’n agored i niwed er mwyn galluogi’r heddlu a phartneriaid amlasiantaeth (MA) i adnabod arwyddion o fod yn agored i niwed ar y cyfle cyntaf ac i gydweithio i ddarparu mynediad i gefnogaeth y tu hwnt i wasanaethau statudol. Yn allweddol i gyflawni hyn oedd datblygu a darparu’r rhaglen hyfforddiant wedi’i lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME). Gwerthusodd yr adroddiad cyfredol gam un y broses o gyflwyno’r hyfforddiant ACE TIME (rhwng mis Medi 2018 a mis Ionawr 2019).

Awduron: Freya Glendinning, Emma Barton+ 7 mwy
, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Michelle McManus, Sophie Harker, Mark Bellis

Deall Tirwedd Plismona wrth Ymateb i Fregusrwydd: Cyfweliadau gyda swyddogion rheng flaen ledled Cymru

Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi ceisio deall y dirwedd o ran plismona bregusrwydd ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn cefnogi ymagwedd rhaglen E.A.T. Mae’n amlinellu realiti ymateb i unigolion sy’n agored i niwed ar gyfer swyddogion rheng flaen, y galluogwyr a’r rhwystrau wrth ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn archwilio cyflwyno’r hyfforddiant aml-asiantaeth Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd sydd yn wybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (hyfforddiant ACE TIME). Mae’r adroddiad hwn yn darparu’r cyd-destun unigol, sefyllfaol a sefydliadol i weld canfyddiadau ar ôl hyfforddiant ACE TIME a darparu argymhellion allweddol wrth baratoi i gyflwyno rhaglen genedlaethol trawsnewid a newid diwylliant o fewn plismona.

Awduron: Emma Barton, Michelle McManus+ 7 mwy
, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Felicity Morris, Bethan Morris, Jo Roberts

Symud o Arloesedd yr Heddlu i Raglen Genedlaethol o Drawsnewidiad

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg lefel uchel o’r siwrnai a’r trawsnewidiad o brosiect lleol PIF Heddlu De Cymru i Raglen Genedlaethol o newid Trawsnewidiol. Mae’n manylu ar fframwaith allweddol rhaglen E.A.T, ei nodau a’i hamcanion, rolau allweddol, y mecanweithiau cyflawni o fewn mesurau hyfforddiant a gwerthuso ACE TIME a ddefnyddir. Cyflwynir canfyddiadau astudiaeth beilot fach, sy’n ystyried cywirdeb y pecyn hyfforddi a’r taclau gwerthuso a ddatblygwyd i fesur effaith yr hyfforddiant cyn ei gyflwyno’n genedlaethol.

Awduron: Annemarie Newbury, Emma Barton+ 5 mwy
, Michelle McManus, Gabriela Ramos Rodriguez, Georgia Johnson, Hayley Janssen, Freya Glendinning